WQ95938 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

A yw Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gynllun taliad ariannol i'r Archif Genedlaethol mewn perthynas ag ymgymryd â'i rôl fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru os caiff y Bil Deddfwriaeth presennol ei basio?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni | Wedi'i ateb ar 11/03/2025

Mae Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) yn cynnig rhoi swyddogaethau i Argraffydd Deddfau Seneddol y Brenin, sydd i’w adnabod fel Argraffydd y Brenin ar gyfer Cymru at y diben hwnnw. Gan fod hyn yn ffurfioli proses sydd eisoes ar waith, ni fu angen cynllun taliad ariannol mewn perthynas â’r trefniadau hynny yn y Bil, fel y’i cyflwynwyd. Felly, ni chytunwyd ar gynllun o’r fath.