WQ95937 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol restru unrhyw daliadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i'r Archif Genedlaethol mewn cysylltiad â'i rôl yn cyhoeddi deddfwriaeth Cymru am bob un o'r tair blynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni | Wedi'i ateb ar 11/03/2025

Ni wnaed unrhyw daliadau gan Lywodraeth Cymru i’r Archifau Gwladol yn ystod y tair blynedd diwethaf mewn perthynas â chyhoeddi deddfwriaeth Gymreig.

Mae’r costau a dalwyd gan Lywodraeth Cymru i’r consesiynydd cyhoeddi (TSO) sy’n ymwneud ag argraffu a chyhoeddi offerynnau statudol Cymreig ym mlynyddoedd ariannol 2020-21, 2021-22, 2022-23 a 2023-24 eisoes yn wybodaeth gyhoeddus – gweler y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru).