WQ95931 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2025

Faint o fyfyrwyr yn Sir Gaerfyrddin wnaeth elwa ar y cynnydd yn y lwfans cynhaliaeth addysg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 07/03/2025

Cynyddwyd cyfradd wythnosol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 i £40 ym mis Ebrill 2023. Roedd y cynnydd yn berthnasol i fyfyrwyr cymwys a oedd yn astudio ar y pryd ac i fyfyrwyr cymwys i’r dyfodol.

Cyfanswm y nifer o Sir Gaerfyrddin a gafodd y Lwfans (y cymeradwywyd eu ceisiadau) ym mlwyddyn academaidd 2022/23 oedd 960; byddai’r rheini a ailgydiodd yn eu hastudiaethau yn dilyn toriad y Pasg ym mis Ebrill 2023 wedi elwa ar y cynnydd.

Byddai pawb a oedd yn gymwys i gael y Lwfans wedi cael y gyfradd uwch ym mlwyddyn academaidd 2023/24; cafodd 1,000 o unigolion o Sir Gaerfyrddin y Lwfans y flwyddyn honno.

Mae data am y niferoedd sy’n cael y Lwfans fesul awdurdod lleol ar gael i’r cyhoedd ar StatsCymru, a chaiff yr wybodaeth ei diweddaru ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.