A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Hwb Llesiant Bro Myrddin, gan gynnwys a) faint o bobl ifanc a gefnogwyd hyd yma, b) cyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn yr Hwb ac c) y camau nesaf?
Ers mis Rhagfyr 2022, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael £700,000 o gyllid cyfalaf ac £1,385,000 o gyllid refeniw, i gefnogi Hwb Llesiant Bro Myrddin a darpariaeth allgymorth yn Aberystwyth a Hwlffordd.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o’m hymrwymiad i brofi ffyrdd eraill o atal sefyllfa pobl ifanc sydd mewn argyfwng rhag gwaethygu, yn lle eu derbyn i’r ysbyty. Mae un prosiect o’r fath ym mhob ardal bwrdd iechyd. Bydd y prosiectau’n cael eu gwerthuso yn ystod y 12 mis nesaf i lywio ein camau nesaf.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddata gweithredol ar y lefel weithgarwch bresennol yn Hwb Llesiant Bro Myrddin felly byddai angen gofyn yn uniongyrchol i’r bwrdd iechyd am hyn.