WQ95922 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau cyfanswm y gwariant o gyllid Ynni Cymru sydd wedi’i fuddsoddi yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â dadansoddiad fesul prosiect yn cynnwys y swm a roddwyd a chrynodeb o fanylion y prosiect?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 19/03/2025

Cafodd cyllid o Gronfa Grant Cyfalaf Ynni Cymru ei ddyfarnu i un prosiect yn Sir Caerfyrddin yn 2024–25.

Cafodd £48,510 ei ddyfarnu i Neuadd Gymunedol Tref Cydweli i gyflwyno System Ynni Lleol Glyfar. Mae’r system yn cynnwys system ffotofoltäig a batris, a dylai’r prosiect fod wedi’i gwblhau erbyn 14 Mawrth 2025.

Yn ogystal â’r manteision y bydd y System Ynni Lleol Glyfar yn eu darparu, mae’r ganolfan yn sefydliad elusennol dielw, a thrwy leihau’r costau rhedeg bydd buddsoddiad Ynni Cymru yn sicrhau dyfodol y ganolfan a’r gweithgareddau cymunedol mae’n eu cefnogi. Mae’r neuadd yn cael ei defnyddio gan amrediad o sefydliadau, gan gynnwys Gwasanaeth Gwaed Cymru, ysgolion lleol a’r banc bwyd lleol, sy’n golygu y bydd y prosiect yn sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol ar draws y gymuned leol.

Roedd y rhaglen grant cyfalaf ar gael i sefydliadau a grwpiau ynni cymunedol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yng Nghymru. Roedd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail gystadleuol gan ddefnyddio meini prawf ar gyfer cyflawnadwyedd, alinio strategol a’r manteision a’r costau ehangach.