WQ95912 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/02/2025

Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud hyd yma i adolygiad Llywodraeth y DU o'r sector addysg uwch?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch | Wedi'i ateb ar 07/03/2025

Ddydd Llun, 3 Chwefror, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a minnau gyfarfod gyda’r Gweinidog Gwladol dros Sgiliau (y Farwnes Smith) i drafod cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer diwygio addysg uwch.

Bydd anghenion Cymru a rôl Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn destun trafodaethau rhwng Gweinidogion, yn ogystal â thrafodaethau cyson rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’u cyd-swyddogion yn Adran Addysg San Steffan. Bydd hyn yn llywio ein rhaglen i ddiwygio addysg uwch i’r dyfodol yng Nghymru, fel sydd wedi’i nodi yn fy Natganiadau Ysgrifenedig ar 18 Chwefror a 3 Mawrth.