WQ95867 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/02/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chwmni MCC Cwmbran er mwyn arbed swyddi yn ffatri MCC ar Ystâd Ddiwydiannol Llantarnam, a thrwy gydol rhanbarth Dwyrain De Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 04/03/2025

Cyfarfu fy swyddogion â'r cwmni ar 10 Chwefror i edrych ar atebion o ran cadw'r gwaith yng Nghwmbrân.

Pe bai canlyniad yr ymarfer ymgynghori yn golygu y bydd y safle'n cau, ein blaenoriaeth fyddai gweithio gyda'r cwmni i gefnogi'r gweithwyr yr effeithir arnynt i swyddi newydd. Mae gennym ddull partneriaeth profedig sy'n cynnwys Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gyrfa Cymru a thimau cyflogadwyedd yr Awdurdod Lleol sy'n darparu cyngor ac arweiniad ar fudd-daliadau, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld a phecynnau ailhyfforddi drwy ReACT Plus.