A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o faint o staff Comisiwn y Senedd sy'n gweithio gartref ac am sawl awr, am y flwyddyn ddiwethaf hyd at y dyddiad y mae data ar gael?
Llywydd AS ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae Comisiwn y Senedd yn casglu data ynghylch patrymau gwaith, gan gynnwys trefniadau gweithio gartref. Mae trefniadau o'r fath yn amodol ar ofynion darparu gwasanaethau a chymeradwyaeth rheolwyr. Nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth unigol ar gyfer pob aelod o staff a'u hunion leoliad ar bwynt penodol o'r dydd wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
Mae’r Comisiwn yn monitro presenoldeb ar y safle, yn ogystal â gwyliau blynyddol, gwyliau hyblyg a lefelau absenoldeb oherwydd salwch. Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth am yr oriau y mae ei staff yn eu gweithio gartref.