WQ95823 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/02/2025

Pa gamau sydd wedi cael eu cymryd i wella diogelwch yr A494 o Ddolgellau i Gorwen dros y bedair mlynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 28/02/2025

Ers 2021, er mwyn gwella diogelwch ar yr A494 o Ddolgellau i Gorwen rydym wedi rhoi gwelliannau ar waith ar hyd pedair rhan o’r ffordd, drwy wella arwyddion rhybuddio a marciau ffordd, neu osod rhai newydd. Y lleoliadau dan sylw yw: y troeon rhwng Glanyrafon a’r gyffordd i Lawrbetws, y troeon i’r gorllewin o Gapel Einon, Llanuwchllyn, y gyffordd at Hen Gapel Llanuwchllyn a chyffordd Y Prys, Llanuwchllyn. Daeth terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr hefyd i rym drwy’r Bala.