WQ95805 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet restru dyddiadau’r cyfarfodydd y mae wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i drafod cynyddu’r Lwfans Tai Lleol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/02/2025

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am adfer cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol (LHA) i'r 50fed canradd (yn hytrach na'r 30ain canradd) a bod y cyfraddau'n cael eu codi'n flynyddol. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ar y mater hwn, yn amlinellu'r angen i ddefnyddio data diwygiedig ar renti.