WQ95772 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annnog newid boileri nwy mewn cartrefi a chyflwyno systemau gwresogi mwy cynaliadwy yn eu lle?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 21/02/2025

Caiff sylfeini ein polisi ar ddatgarboneiddio gwres eu nodi yn Strategaeth gwres i Gymru.

Mae ein llinell gyngor rhadffôn Nyth Cartrefi Cynnes a gwefan  Gweithredu ar Hinsawdd Cymru yn cefnogi aelwydydd gydag chyngor ac awgrymiadau ar ynni cartref.  Mae cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yn cefnogi perchen-feddianwyr trwy gynnig cyllid cost isel ac asesiadau ôl-osod. Rwyf wedi clustnodi £3 miliwn i barhau â'r cynllun peilot hwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Rydym wrthi’n adolygu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer, i symleiddio rheoliadau a hyrwyddo defnydd ehangach o'r dechnoleg.

Rydym wedi cefnogi camau i lunio cynlluniau ynni ardal leol ledled Cymru, gan ddarparu tystiolaeth ar yr atebion gwresogi mwyaf priodol i’r dyfodol i gefnogi ymgysylltu â chymunedau lleol.

Rydym hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod meysydd polisi allweddol nad ydynt wedi'u datganoli.