WQ95771 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/02/2025

A oes gan Lywodraeth Cymru darged ar gyfer gwahardd boileri nwy mewn cartrefi erbyn dyddiad penodol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 20/02/2025

Mae trawsgludo, morgludo a chyflenwi nwy yn faterion a gadwyd yn ôl. Mater i Lywodraeth y DU, felly, yw penderfynu a yw'n dymuno deddfu yn y maes hwn. Mae'n amlwg y bydd angen i ni leihau ein defnydd o danwyddau ffosil ar gyfer gwresogi, oeri a choginio er mwyn gallu cyflawni ein targedau newid hinsawdd. Fel y nodir yn ein Strategaeth Gwres, mae ein camau gweithredu tymor byr yn canolbwyntio ar greu fframwaith galluogi ar gyfer trosglwyddo i wres carbon isel a fforddiadwy.

O ran adeiladau newydd, Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu yw ein dull o reoleiddio ar gyfer safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol. Yn 2022, gwnaethom gyflwyno newid sylweddol ac angenrheidiol o ran ynni a pherfformiad carbon mewn tai newydd, a gyflwynodd ostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd (o'i gymharu â safonau blaenorol). Yn ogystal, mae angen i bob cartref newydd hefyd fod yn barod at y dyfodol, i'w gwneud hi'n haws ôl-osod systemau gwresogi carbon isel (oni bai fod system wresogi carbon isel wedi'i gosod).

Yn 2023, gwnaethom gymryd cam arall sylweddol ac angenrheidiol o ran ynni a pherfformiad carbon mewn adeiladau annomestig, a gyflwynodd ostyngiad o 28% mewn allyriadau carbon ar gyfer adeiladau newydd (o'i gymharu â safonau blaenorol).

Mae'r ddau welliant yma yn gam tuag at y newidiadau nesaf i safonau effeithlonrwydd ynni mewn Rheoliadau Adeiladu. Er mwyn cyflwyno gweledigaeth glir i ddiwydiant, pwysleisiodd ein hymgynghoriad blaenorol am Ran L y bydd angen system wresogi carbon isel ar bob cartref newydd i gyrraedd safon arfaethedig Rhan L 2025. Gwnaethom hefyd dynnu sylw at ein gweledigaeth i sicrhau bod adeiladau annomestig newydd yn dechrau defnyddio ffynonellau gwres carbon isel ar gyfer gwresogi a dŵr poeth.

Mae adolygiad Rhan L 2025 wedi cychwyn, ac mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni, a fydd yn cynnwys holl fanylion technegol y cynigion