Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ynghylch ei gwneud yn ofynnol i a) tai cymdeithasol, a b) tai preifat newydd sydd yn cael eu datblygu i fod a phaneli solar a phympiau gwres o'r aer?
Nid ydym yn gosod gofyniad i osod technolegau penodol mewn cartrefi cymdeithasol neu breifat newydd. Rydym yn gosod safonau ynghylch effeithlonrwydd ynni a pherfformiad adeiladu tra'n rhoi hyblygrwydd i ddatblygwyr fodloni'r safonau yn y ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer eu datblygiad penodol.
Mae ein Safon Ansawdd Tai Cymru yn berthnasol i bob cynllun tai fforddiadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n gosod gofynion o ran ynni a datgarboneiddio sy'n cynnwys cyflawni EPC A (SAP92 neu fwy) trwy safonau ffabrig gofynnol a thrwy beidio â defnyddio boeleri tanwydd ffosil i ddarparu dŵr poeth domestig a gwresogi gofod.
Mae Rhan L o'r Rheoliadau Adeiladu yn berthnasol i gartrefi preifat ac mae'n cynnwys y gofynion o ran gwarchod tanwydd a phŵer. Yn 2022, gwnaethom cam sylweddol ac angenrheidiol ymlaen o ran ynni a pherfformiad carbon mewn tai newydd, a gyflwynodd ostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd (o'i gymharu â safonau blaenorol).
Roedd diwygiadau 2022 yn cynnwys PV solar o fewn y fanyleb adeiladu tybiannol sy'n gosod y targed ynni. Er nad yw'n orfodol, mae hyn yn annog y defnydd o ynni adnewyddadwy mewn anheddau newydd.
Er mwyn darparu gweledigaeth glir i ddiwydiant, pwysleisiodd ein hymgynghoriad blaenorol ar Ran L y bydd angen system wresogi carbon isel ar bob cartref newydd i gyrraedd safon arfaethedig Rhan L 2025. Rydym wedi cychwyn adolygiad o Ran L, ac mae disgwyl ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni, a fydd yn cynnwys holl fanylion technegol y cynigion.