I ba raddau mae’r Future Homes Standard arfaethedig yn Lloegr yn berthnasol i Gymru, ac os nad ydyw, beth sy’n cyfateb iddo yma?
Y Future Homes Standard yw’r enw polisi ar y newidiadau arfaethedig i Ran L (Conservation of Fuel and Power) y Rheoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau newydd yn Lloegr.
Mae’r rheoliadau adeiladu wedi’u datganoli; ac mae Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladu yn ffordd o reoleiddio o ran safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yng Nghymru ar gyfer adeiladau newydd.
Gwnaethom gymryd cam sylweddol ac angenrheidiol ymlaen yn 2022 o ran perfformiad ynni a charbon mewn tai newydd, gan gyflwyno gostyngiad o 37% mewn allyriadau carbon ar gyfer anheddau newydd (o’i gymharu â’r safon flaenorol).
Mae’r adolygiad o Ran L 2025 yng Nghymru wedi cychwyn ac mae disgwyl i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys yr holl fanylion technegol sydd ynghlwm wrth y cynigion.