WQ95648 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/01/2025

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amserlen Llywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion a wnaed gan yr Adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 06/02/2025

Rydym wrthi’n ystyried yr adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Mae ei argymhellion yn cyffwrdd ag ystod eang o feysydd polisi sy’n gofyn am ymgysylltiad trawslywodraethol. Ein nod yw ymateb i’r argymhellion yn nes ymlaen eleni.