Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei phenderfyniad am y cymorth ariannol fydd y Llywodraeth yn ei gyfrannu tuag at y cynllun i droi yr hen Debenhams ym Mangor yn ganolfan iechyd a llesiant?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 04/02/2025
Mae Llywodraeth Cymru’n gefnogol o’r prosiect Hwb Iechyd Bangor arfaethedig ac yn gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu’r cynnig. Ar hyn o bryd rydym yn aros am ragor o wybodaeth i gefnogi’r prosiect gan Gyngor Gwynedd cyn y gellir ystyried y prosiect ar gyfer cyllid i ddatblygu’r Achos Busnes Amlinellol. Rydym yn disgwyl y daw’r wybodaeth hon i law ym mis Chwefror 2025.