Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ehangu'r rhaglen cardiau teithio am ddim i bensiynwyr at fodel tebyg i gynllun teithio am ddim Iwerddon gyfan?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
| Wedi'i ateb ar 10/01/2025
Rydym yn parhau i gynnig teithio am ddim ar rai gwasanaethau bws lleol yng Nghymru. Mae tocynnau hefyd yn ddilys i’w defnyddio ar gyfer teithio ar wasanaethau bws trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn parhau i ganolbwyntio’n bennaf ar annog deiliaid pasys i ddefnyddio eu pasys i deithio yng Nghymru. Rydym yn barod i drafod â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill drefniadau teithio cyfatebol os oes cyllid ar gael.