A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws prospectws grant tai cymdeithasol pob awdurdod lleol, gan gynnwys niferoedd y tai cymdeithasol yr ymrwymir i’w cyflawni fesul awdurdod lleol?
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu prosbectws ar gyfer eu rhaglen Grant Tai Cymdeithasol ers mis Mai 2021. Mae pob awdurdod lleol wedi cyflwyno prosbectws sy'n nodi eu blaenoriaethau ar gyfer Grant Tai Cymdeithasol a'r math o ddarpariaeth a gynlluniwyd i'w chyflawni. Mae pob prosbectws hefyd yn rhoi crynodeb o'r angen a'r galw am dai ym mhob ardal yn seiliedig ar eu Hasesiad diweddaraf o'r Farchnad Dai Leol (LHMA).
Mae nifer y tai cymdeithasol yr ymrwymwyd i’w hariannu gan bob awdurdod lleol ar hyn o bryd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Cyflawni Rhaglen (PDP) pob Awdurdod Lleol. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer tai cymdeithasol o ran prosiectau yr ymrwymwyd iddynt a’r llif prosiectau yn y dyfodol mewn Cynlluniau Cyflawni Rhaglenni wedi'u nodi isod.
Dim ond rhan o'r darlun llawn o ran y ddarpariaeth a gynlluniwyd yw'r Cynllun Cyflawni Rhaglen gan y bydd tai cymdeithasol hefyd yn cael eu darparu drwy a106, a rhaglenni cyfalaf eraill.
|
|
Nifer y Tai drwy Gynlluniau Cyflawni Rhaglenni |
||
|
Awdurdod Lleol |
Prif Raglen |
Rhaglen Wrth Gefn |
Rhaglen Bosibl |
|
Blaenau Gwent |
89 |
36 |
56 |
|
Pen-y-bont ar Ogwr |
239 |
19 |
128 |
|
Caerffili |
383 |
0 |
392 |
|
Caerdydd |
938 |
190 |
143 |
|
Sir Gaerfyrddin |
390 |
57 |
306 |
|
Ceredigion |
168 |
143 |
74 |
|
Conwy |
305 |
0 |
346 |
|
Sir Ddinbych |
189 |
350 |
0 |
|
Sir y Fflint |
330 |
81 |
499 |
|
Gwynedd |
284 |
44 |
326 |
|
Ynys Môn |
237 |
119 |
4 |
|
Merthyr Tudful |
206 |
18 |
29 |
|
Sir Fynwy |
211 |
40 |
151 |
|
Castell-nedd Port Talbot |
470 |
268 |
0 |
|
Casnewydd |
453 |
114 |
207 |
|
Sir Benfro |
390 |
73 |
879 |
|
Powys |
392 |
75 |
73 |
|
Rhondda Cynon Taf |
542 |
61 |
40 |
|
Abertawe |
740 |
619 |
0 |
|
Torfaen |
368 |
0 |
0 |
|
Bro Morgannwg |
390 |
216 |
0 |
|
Wrecsam |
332 |
20 |
101 |
|
Cyfanswm |
8,046 |
2,543 |
3,754 |