WQ95369 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r amserlen ddisgwyliedig rhwng hyn a diwedd tymor y Senedd hon ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau peilot ail gartrefi Dwyfor?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 14/01/2025

Mae tri cham i’r broses o werthuso cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor: cam archwilio (cam un), cam prosesau (cam dau) a cham effaith (cam tri). Bydd casgliadau cam un yn cael eu cyhoeddi ar 28 Ionawr 2025. Mae disgwyl i gasgliadau cam dau gael eu cyhoeddi ar ddechrau 2026 a bwriedir cyhoeddi’r adroddiad terfynol ar ddechrau 2027, a fydd y tu hwnt i dymor y Senedd hon.  

Cafodd yr adroddiad ar gam un ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Mae’r adroddiad hwn bellach wedi’i gyfieithu ac wedi bod yn destun prosesau sicrhau ansawdd, yn unol â Phrotocol Cyhoeddiadau Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth.