WQ95368 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pryd y bydd adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gynllunio gwlad a thref yn cael ei gyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 10/01/2025

Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Yn nwylo’r Comisiwn y mae’r gwaith o gwblhau'r adroddiad a'i gyhoeddi. Rwy'n deall gan y Comisiwn eu bod yn anelu at gyhoeddi'r adroddiad yn fuan.