WQ95366 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/01/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ar ba ddyddiad y gwnaeth y Llywodraeth dderbyn adroddiad terfynol y gwaith a wnaed ar y strwythurau sefydliadol tymor hir posibl ar gyfer Arfor a’r Cymoedd gan yr Athro Kevin Morgan ac eraill a chadarnhau pryd y cyhoeddir y gwaith?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 16/01/2025

Derbyniwyd yr adroddiad yn Haf 2024. Byddaf yn ystyried y cyngor a gafwyd yn yr adroddiad ac yn ystyried cyhoeddi’r adroddiad yn fuan.