Pa ddarpariaethau sydd yn y Bil y Gymraeg ac Addysg i warantu bod yr un egwyddor o beidio symud am yn ôl sydd yn berthnasol i gyrff llywodraethu ysgol wrth ddiwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg hefyd yn berthnasol i awdurdodau lleol pan fyddant yn ad-drefnu darpariaeth addysg o fewn sir?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
| Wedi'i ateb ar 07/01/2025
Yn unol â’r llinyn atebolrwydd clir a gyflwynir gan y Bil, rhaid i’r awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir arnynt gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.