WQ95352 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/12/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau i ba raddau y mae'r cynigion a gafodd eu cynnig ym mharagraffau 66 a 67 y Papur Gwyn 'Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg' ynghylch agor ysgolion newydd neu ad-drefnu darpariaeth addysg mewn sir wedi'u hymgorffori ym Mil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 07/01/2025

At ddibenion darparu tryloywder, mae’r Bil yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal a chyhoeddi cofrestr sy’n cynnwys, ymysg pethau eraill, categori iaith arfaethedig unrhyw ysgolion newydd y gwneir cynigion ar eu cyfer.

Bydd hyn yn rhoi cyfle i randdeiliaid gael dweud eu dweud ar unrhyw gynigion ar gyfer ysgolion newydd yn gynnar yn y broses.