Bydd y gallu o hyd gan awdurdodau lleol i gynnig newid categori iaith ysgol o dan ddarpariaethau'r Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), ac os felly, a yw'r Ysgrifenydd Cabinet credu bod angen ehangu cwmpas adran 17 y Bil i gynnwys awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu?
Mae’r Bil yn nodi fod rhaid i gynllun cyflawni ysgol nodi categori iaith yr ysgol a nodi’r cynigion y bwriedir eu cymryd gan yr ysgol i newid categori iaith yr ysgol, os yw’r corff llywodraethu yn dymuno.
Unwaith y bydd cynllun cyflawni wedi ei gyflwyno i’r awdurdod lleol, caiff yr awdurdod lleol ei gymeradwyo, ei gymeradwyo gydag addasiadau a gytunir gan gorff llywodraethu’r ysgol, neu ei wrthod gyda chyfarwyddyd i’r corff llywodraethu ailystyried y cynllun cyflawni. Os gwrthodir y cynllun, rhaid i gyfarwyddyd nodi’r rhesymau dros y penderfyniad a phennu erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff llywodraethu gyflwyno drafft pellach i’r awdurdod lleol.
Yn unol â’r llinyn atebolrwydd clir a gyflwynir gan y Bil, rhaid i’r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, ac mae rôl gymeradwyo yn hwyluso hyn.