Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i ehangu adran 32 Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) i alluogi Gweinidogion i osod cynllun strategol lleol ar awdurdod lleol os creda Gweinidogion bod awdurdod yn annhebygol o gyflawni targed, hyd yn oed ar ôl dilyn y broses yn 32(3)-(5) y Bil?
Mae’r Bil yn gosod llinell atebolrwydd clir rhwng y Fframwaith Cenedlaethol, y Cynlluniau Strategol Lleol Cymraeg mewn Addysg a Chynlluniau Cyflawni Addysg Gymraeg ysgolion. Y bwriad yw sefydlu system fydd yn galluogi y gwahanol haenau i gydweithio er mwyn cwrdd a’r targedau a osodir ar awdurdodau lleol yn y Fframwaith Cenedlaethol. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol.
Mae adran 48 y Bil yn ychwanegu Rhan 3 (Addysg Gymraeg) a Rhan 4 (Cynllunio Addysg a Dysgu Cymraeg) o’r Bil at y rhestr o Ddeddfau Addysg (“Education Acts”) a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996. Ffordd o gydlynu deddfwriaeth ar destun addysg yw hyn a’i phrif effaith yma yw bod gan Weinidogion Cymru bwerau i ymyrryd os bydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu awdurdod lleol yn methu â chydymffurfio â dyletswyddau o dan y Bil, neu’n arfer swyddogaethau o dan y Bil mewn ffordd afresymol. Mae’r pwerau hyn yn Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac (yn fwy cyffredinol) maent yn galluogi Gweinidogion Cymru ymyrryd, pan fo’n briodol a’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg.