WQ95349 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/12/2024

All yr Ysgrifenydd Cabinet egluro pam nad yw Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn adlewyrchu’r nod polisi syflaenol o'r Bapur Gwyn ‘Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg’ (paragraffau 11-13) o ran yr amserlen ar gyfer pob disgybl yn cyrraedd lefel B2 o leiaf erbyn diwedd eu haddysg statudol, erbyn 2050?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 07/01/2025

Mae adran 11 y Bil yn sefydlu nodau dysgu Cymraeg, sy’n seiliedig ar y lefelau cyfeirio cyffredin, ar gyfer y gwahanol gategorïau o ysgolion. Fel a nodir ym Memorandwm Esboniadol y Bil, y nodau dysgu Cymraeg ar gyfer y categorïau fydd:

Categori iaith

Nod dysgu Cymraeg

Prif Iaith - Cymraeg

Bod disgyblion yn ddefnyddwyr hyfedr o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin C1 neu C2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 y Bil yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr hyfedr.

 

Dwy Iaith

Bod disgyblion yn ddefnyddwyr annibynnol o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr annibynnol.

 

Erbyn dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, bod disgyblion yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar, (defnyddiwr Cymraeg annibynnol) o leiaf,  erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol.

 

Prif Iaith -  Saesneg, rhannol Gymraeg

Hyd at ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, bod disgyblion yn ddefnyddwyr sylfaenol, o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol.

Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr sylfaenol.

O ran y lefelau cyfeirio cyffredin sy’n cwmpasu defnyddiwr sylfaenol, bydd disgwyl i gynllun cyflawni ysgol o dan adran 14(1)(f)(iii) hwyluso gwelliant parhaus. O wneud hynny, y disgwyl dros amser yw y bydd y mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin A2 o leiaf.

Ar ôl y dyddiad hwnnw,

(i)            bod disgyblion yn ddefnyddwyr annibynnol, o leiaf, erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol (lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2). Mae’r Tabl yn Atodlen 1 yn disgrifio nodweddion cyffredinol defnyddiwr annibynnol.

 

(ii)          erbyn dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, fod disgyblion yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar, (defnyddiwr Cymraeg annibynnol) o leiaf,  erbyn iddynt beidio â bod o oedran addysg gorfodol.