A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa ddarpariaethau yn y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) sy'n cynnwys y weithdrefn i alluogi Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i dderbyn cwynion ac ymchwilio a monitro cydymffurfiaeth ynghylch methiant honedig i godi'r ardoll ar ymwelwyr a/neu ei dalu i ACC?
Os yw darparwr llety gwyliau yn dod o dan y diffiniad o 'ddarparwr llety ymwelwyr' yna rhaid iddo gofrestru pob eiddo yng Nghymru lle mae'n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr. Y bwriad yw y bydd darparwr sydd â sawl eiddo yn gallu rhestru ei holl eiddo mewn un cais cofrestru.
O ran cwynion, bydd y weithdrefn ar gyfer casglu gwybodaeth gyhoeddus mewn perthynas â'r gofrestr genedlaethol ar gyfer llety ymwelwyr yn rhan o ddatblygu'r gofrestr yn y dyfodol.
At ddibenion y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), ystyr 'llety ymwelwyr' yw llety fel yr amlinellir yn adran 2(1), oni bai ei fod wedi'i restru yn adran 2(2). Mae adran 2(3) o'r Bil yn egluro, pan fydd cyfeiriadau at 'sail tymor byr' yn cael eu gwneud yn adran 2(1), yr ystyrir bod llety ar gael ar sail tymor byr os rhoddir ef ar gael ar gyfer arosiadau o 31 o nosweithiau neu lai na hynny.
Bydd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 i roi'r swyddogaeth ar gyfer casglu a rheoli'r ardoll ymwelwyr i Awdurdod Cyllid Cymru. Golyga hyn y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu defnyddio'r pwerau a roddir iddo drwy'r ddeddfwriaeth honno, ac eithrio pan gaiff ei eithrio'n benodol yn Atodlen 1 o Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru).