WQ95321 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/12/2024

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i gynnal o’r cymorth sydd ei angen i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan gau porthladd Caergybi yn sgil storm Darragh?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 07/01/2025

Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a rhanddeiliaid ehangach er mwyn asesu effaith cau’r porthladd. Er fy mod yn ymwybodol o rai adroddiadau yn y cyfryngau ynghylch yr effeithiau ar rai busnesau lleol, ac yn enwedig yn y sectorau bwyd a lletygarwch, nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i chyflwyno ynghylch y cymorth ychwanegol sydd ei angen. Gall Busnes Cymru gynnig cymorth i unrhyw fusnesau y mae cau’r porthladd wedi effeithio arnynt.

Bydd swyddogion yn parhau i gydweithio â’r awdurdod lleol er mwyn pennu pa gymorth sydd ei angen ar fusnesau ac unigolion y mae cau Porthladd Caergybi wedi cael effaith uniongyrchol arnynt. Mae’r Cyngor yn bwriadu agor porthol ar-lein ym mis Ionawr i gasglu tystiolaeth.