WQ95297 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/12/2024

Faint o amser cyn, neu ar ol, dod yn landlord y mae'n rhaid i landlord gwblhau hyfforddiant a sefyll arholiad am drwydded Rhentu Doeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 20/12/2024

Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod i landlordiaid newydd cyn ei bod yn ofynnol iddynt gael eu trwyddedu eu hunain, neu benodi asiant trwyddedig.