WQ95279 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/12/2024

Pryd fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi’r astudiaeth ddichonoldeb gan Drafnidiaeth Cymru ar ailagor y lein o Fangor i Afon Wen?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 03/01/2025

Mae'r astudiaeth ar ailagor y lein rhwng Bangor ac Afon Wen bellach wedi'i chwblhau a bydd yn cael ei chyhoeddi maes o law. Bydd fy swyddogion yn ei rhannu â chi unwaith y bydd ar gael.