A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet sicrhau cyhoeddi cylch gorchwyl adolygiad diogelu plant bwrdd diogelu’r Gogledd yn dilyn dedfrydu’r paedoffeil Neil Foden?
Roeddwn i wedi nodi yn ein cyfarfod ar 26 Tachwedd na allwn weld rheswm pam na ddylid cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl, o gofio bod yr adolygiad bellach wedi symud ymlaen yn sylweddol, gan leihau'r risg o unrhyw newidiadau mawr i'r Cylch Gorchwyl. Fodd bynnag, gallai newid rhywfaint wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen. Mae'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn ymwybodol bod rhai yn dweud y byddai cyhoeddi'r Cylch Gorchwyl yn helpu i godi hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses.
Rwy'n cytuno y byddai ei gyhoeddi yn rhoi eglurder ynghylch yr hyn a drafodir yn yr adolygiad. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rym i orfodi'r Bwrdd i gydymffurfio â'r hyn sy'n broses annibynnol. Byddai ei gyhoeddi cyn cwblhau'r adolygiad yn anarferol iawn. Ond, o ystyried y cymhlethdodau, mae Panel yr Adolygiad yn ystyried eu sefyllfa a bydd y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn darparu datganiad wedi'i ddiweddaru yn fuan.