Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru yn cymryd i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen yn gyson yn sgil cau gwasanaeth mynediad agored ar gyfer epilepsi oedolion yng Nghasnewydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a de Powys?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag epilepsi yn cael mynediad at y gofal gorau posibl. Rydym yn gweithio’n agos gyda Gweithrediaeth y GIG, yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, a’r byrddau iechyd i wella gwasanaethau.
Oherwydd heriau staffio, am gyfnod dros dro nid fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gallu cynnal y gwasanaeth ffôn mynediad agored ar gyfer epilepsi. Fodd bynnag, mae camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen. Bydd pawb y mae hyn yn effeithio arnynt yn cael gwybodaeth am y sefyllfa a’r mesurau sydd ar waith i’w lliniaru er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymorth amserol.
Mae’r bwrdd iechyd wedi tynnu sylw at yr heriau y mae’r gwasanaeth a gofal sylfaenol yn eu hwynebu, a bydd derbyniadau brys yn parhau i gael cymorth drwy’r adran argyfwng neu uned feddygol acíwt yn unol â’u hanghenion clinigol. Hefyd mae trafodaethau gyda Llais wedi cael eu cynnal.
Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i ddatblygu cynlluniau adnoddau i gefnogi anghenion cleifion, a bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa.