WQ95172 (w) Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2024

Erbyn pryd bydd angen i lety gwyliau tymor byr feddu trwydded o dan amserlen weithredu y Bil trwyddedu llety gwyliau tymor byr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 16/12/2024

Rydyn ni’n gweithio i ddatblygu deddfwriaeth drwyddedu ac rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno bil cyn diwedd tymor y Senedd hon. 

Drwy’r pwerau a roddwyd gan y Senedd, caiff awdurdodau lleol ddewis cyflwyno rheolaethau cynllunio i ymdrin â’r effaith y bydd unrhyw letyau gwyliau newydd mewn eiddo preswyl yn ei chael yn lleol. Mae ganddynt hefyd bwerau i gefnogi preswylwyr sydd â lle i gwyno am sŵn a niwsans cyffredinol, yn enwedig pan fo pryderon sylweddol yn lleol. Mae hyn yn sicrhau bod lleisiau cymdogion yn cael eu clywed a’u hystyried mewn perthynas â defnyddio eiddo fel llety gwyliau tymor byr.

Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall pryderon o’r fath, ac i ymateb iddynt, ac o ganlyniad nid yw’n fwriad gennym gynnwys ymgynghori â’r gymuned nac â thrigolion fel rhan o’r broses drwyddedu genedlaethol.