WQ95122 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu system dalgylch malurion ar gyfer yr afon o dan bont Pontargothi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 05/12/2024

Yn dilyn gwaith modelu hydrolegol mewn labordy bydd yr opsiwn a ffefrir sef Ysgubwyr Gweddillion yn cael eu gosod. Bydd y rhain yn cynnig ateb llai ymwthiol a mwy effeithlon o ran cost/carbon ac mae’r gwaith bellach ar y cam dylunio manwl.

Mae cais cynllunio ffurfiol i ganiatáu gwaith adeiladu’r ysgubwyr gweddillion wrthi’n cael ei lunio a bydd yn cael ei gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25. Mae unrhyw waith caffael tir angenrheidiol neu ofynion o ran mynediad ar gyfer adeiladu’r cynllun hefyd wrthi’n cael eu hystyried ac mae’r gwaith yma’n symud ymlaen. Yn amodol ar gwblhau’r broses ymgeisio yn llwyddiannus a bodloni unrhyw ofynion angenrheidiol o ran tir bydd y gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf sef 2025/26.

Fel rhan o’r opsiwn dylunio yma bydd system fonitro a theledu cylch cyfyng hefyd yn cael ei gosod ar y bont, fel bod ein Hasiantwyr Cefnffyrdd yn ymwybodol o unrhyw weddillion a allai gronni na fydd yr Ysgubwyr Gweddillion newydd wedi eu hatal.

Yn y cyfamser, bydd ein Hasiantwyr Cefnffyrdd yn monitro’r sefyllfa bresennol yn ofalus a byddant yn trefnu bod unrhyw gasgliadau mawr o weddillion yn cael eu clirio o’r bont cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.