WQ95087 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2024

Pa bolisi a/neu sail ddeddfwriaethol y gwnaeth y Comisiwn ddibynnu arni wrth atal GB News o system deledu fewnol y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 04/12/2024

Nid yw cynnwys System Ddarlledu Fewnol Comisiwn y Senedd yn fater o ddeddfwriaeth benodol.

Mae’r Comisiwn wedi mabwysiadu polisi mai prif ddiben y system deledu fewnol ar ystad y Senedd yw darparu ffrydiau darlledu ar gyfer y Siambr a’r Ystafelloedd Pwyllgora.

O dan y polisi hwn, mae system Chwarae Driphlyg Comisiwn y Senedd yn cynnwys dim ond y sianeli hynny sydd â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cyfathrebu 2003: BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac S4C. Cytunodd y Comisiynwyr ar un ychwanegiad at y ddarpariaeth hon, sef cynnwys Sky News fel sianel ychwanegol i sicrhau lluosogrwydd o ran rhaglenni newyddion.

Mae ystod eang o sianeli teledu a systemau radio eraill ar gael ar-lein gan ddefnyddio rhwydwaith TG y Senedd.