Pryd fydd y penderfyniad i atal sianel GB News o system deledu fewnol y Senedd yn cael ei adolygu?
Mae'r adolygiad o System Ddarlledu Fewnol Comisiwn y Senedd wedi'i gynnal a'i weithredu.
Yng nghyfarfod y Comisiwn ar 15 Gorffennaf 2024, trafododd y Comisiynwyr yr adroddiad ar adolygiad polisi o System Ddarlledu Fewnol Comisiwn y Senedd, a gynhaliwyd ar gais y Comisiwn gan un o Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn.
Diben y darn hwn o waith oedd cynorthwyo Comisiwn y Senedd i lunio protocol / polisi darlledu a fyddai’n rhoi eglurder ar y sianeli a fyddai ar gael ar system deledu fewnol y Senedd yn y dyfodol.
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth a adroddwyd, gan dderbyn y dull polisi a argymhellwyd gan y Cynghorydd Annibynnol.
Gellir cael rhagor o fanylion mewn llythyr a ddarparwyd i'r Pwyllgor Deisebau a'i gyhoeddi ar wefan y Senedd: Gohebiaeth gan y Llywydd 27 Medi 2024.pdf