WQ95046 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gam dau o’r cynllun i ehangu gofal plant am ddim i blant dwy oed yng Nghymru a rhannu’r amserlen y mae'r Llywodraeth yn gweithio tuag ato i sicrhau bydd pob plentyn 2 oed yn derbyn 12.5 awr o ofal plant am ddim?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 28/11/2024

Rydym yn gwneud cynnydd rhagorol o ran ehangu'r ddarpariaeth o ofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed ledled Cymru.

Dechreuodd Cam 2 y broses ehangu ym mis Mawrth 2023. Yn 2023-24, cafodd 6,885 o leoedd gofal plant ychwanegol eu cynnig i blant dwy oed ledled Cymru.  Rydym yn disgwyl cefnogi mwy na 9,500 ychwanegol o blant dwy oed i gael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg yn ystod 2023-24 a 2024-25 ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni hynny.

Er mwyn cefnogi cynnydd pellach yn y maes hwn, ar 9 Hydref 2024 comisiynodd Llywodraeth Cymru bob awdurdod lleol ledled Cymru i baratoi cynlluniau ehangu ar gyfer cam nesaf (Cam 3) y broses o gyflwyno darpariaeth gofal plant i bob plentyn dwy oed yn eu hardal. Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i lywio'r pa mor gyflym y gellir ehangu’r ddarpariaeth ymhellach mewn ffordd gynaliadwy.