WQ95011 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/11/2024

Faint mae'r Comisiwn wedi'i wario ym mlwyddyn ariannol 2023-24 i gyflogi swyddogion amrywiaeth a chynhwysiant LHDTC+?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 03/12/2024

Hefin David AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae’r Comisiwn yn cyflogi dau aelod o staff parhaol cyfwerth ag amser llawn sy’n gyfrifol am amrywiaeth a chynhwysiant yn unig, sef y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant. Maent yn cael eu goruchwylio gan arweinydd y tîm, sef y Pennaeth Datblygu Sefydliadol, Dysgu a Chynhwysiant.

Daw’r gost o gyflogi’r ddau aelod o staff Amrywiaeth a Chynhwysiant i gyfanswm o £100,663, gan gynnwys cyflogau ac argostau, yn ogystal ag Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.