WQ94953 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024

Ymhellach i WQ93032, faint o dai ychwanegol fydd eu hangen ym mhob cynllun datblygu lleol newydd neu gynllun i’w ddiweddaru yn ystod cyfnod y cynlluniau rheiny, a beth yw asesiad diweddaraf y Llywodraeth o'r cynnydd mewn poblogaeth yn ardaloedd y cynlluniau hynny yn y cyfnodau dan sylw?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 15/11/2024

Yr awdurdodau cynllunio lleol sy'n gyfrifol am asesu eu hanghenion eu hunain am dai ychwanegol, gan wneud hynny ar sail y dystiolaeth leol; mae Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn rhan hanfodol o’r gwaith asesu hwnnw. Mae LHMAau yn cael eu cynnal gan ddefnyddio offeryn safonedig ar-lein sy'n asesu ‘angen sydd newydd godi’ a hefyd ‘angen presennol heb ei ddiwallu’.

Mae LHMAau hefyd yn cynnwys asesiad o’r newid yn y boblogaeth yn eu hardal ac mae’r asesiad hwnnw’n seiliedig ar amcanestyniadau aelwydydd diweddaraf y Llywodraeth. Mae’n ofynnol o dan Polisi Cynllunio Cymru i Gynlluniau Datblygu Lleol gynnwys targedau ar gyfer nifer y tai fforddiadwy a’r tai ar gyfer y farchnad y mae awdurdod yn bwriadu eu cyflenwi dros gyfnod y cynllun ar sail allbwn y LHMA a thystiolaeth arall.