WQ94947 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024

Pa ran y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd trefi newydd yn ei chwarae yn ei pholisi cynllunio a darparu tai ychwanegol yn wyneb y polisi mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei hyrwyddo ar gyfer Lloegr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 15/11/2024

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn cefnogi hyrwyddo trefi newydd drwy Gymru'r Dyfodol a Chynlluniau Datblygu Strategol. Ar hyn o bryd, mae'n annhebygol y bydd maint y twf tai a gynigir gan Gynlluniau Datblygu Lleol unigol yn cyfiawnhau tref newydd. Mae angen i drefi newydd gynnwys o leiaf 10,000 o gartrefi gyda seilwaith cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig i fod yn gynaliadwy a lleihau'r angen i deithio. Am y rheswm hwn, mae cynigion am drefi newydd yn fwy tebygol o gael eu cyfiawnhau a'u hyrwyddo trwy Gynlluniau Datblygu Strategol ac maent yn adlewyrchu anghenion tai y rhanbarth.