WQ94946 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet restru pa ganran o stoc tai a) bob awdurdod lleol a b) bob cymdeithas dai yng Nghymru sy’n bodloni safon ansawdd tai Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 21/11/2024

Ers 31 March 2022, canfuwyd fod holl gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai (100 y cant) yn cydymffurfio â’r Safon Ansawdd Tai Cymru blaenorol gan gynnwys methiannau derbyniol. Gellir gweld yr ystadegau hyn ar dudalennau ystadegau Safon Ansawdd Tai Cymru gwefan Llywodraeth Cymru ac ar StatsCymru.

Lansiwyd y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd ym mis Hydref 2023, a daeth i rym o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae rhestr o elfennau a’u dyddiad cydymffurfio cyfatebol yn Atodiad 5 y ddogfen. Mae elfen sylweddol o newid rhwng fersiwn flaenorol a fersiwn newydd y safon. Mae landlordiaid cymdeithasol eisoes yn gweithio tuag at fodloni’r safon newydd feiddgar ac uchelgeisiol. Bydd yr adroddiad cyntaf ar gynnydd o ran bodloni’r safon yn cael ei gyhoeddi yn Haf 2025.