WQ94945 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y trefniadau sydd bellach mewn lle i reoleiddio cymdeithasau tai yn dilyn y penderfyniad i ddiddymu Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn ystod haf 2022?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 21/11/2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i reoleiddio cymdeithasau tai drwy’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru.

Fel rhan o raglen barhaus i gryfhau’r broses o reoleiddio, rydym ar hyn o bryd yn recriwtio cadeirydd ac aelodau ar gyfer Panel Sicrwydd Annibynnol ar gyfer Rheoleiddio Tai. Rôl y panel fydd darparu barn annibynnol ynghylch pa mor effeithiol y mae’r fframwaith yn cael ei weithredu.