Beth yw asesiad y Llywodraeth o effaith y penderfyniad i gefnogi parthau buddsoddi newydd mewn ardaloedd dwyreiniol ar dlodi a gwydnwch a ffyniant economaidd llefydd fel Arfon, o ystyried y bydd y parthau yn cael rhyddhad bosibl o sawl treth, ac absenoldeb darpariaeth gyfatebol yn y gorllewin a’r cymoedd?
Mae Parth Buddsoddi Gogledd-ddwyrain Cymru wedi'i gynllunio i ryddhau cyfleoedd ar gyfer busnesau a mynd i'r afael â rhwystrau i dwf y sector preifat, gan greu mwy o swyddi o ansawdd uchel i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn datblygu achos busnes y bydd Llywodraethau'r DU a Chymru yn ei gymeradwyo. Bydd hyn yn nodi cynigion Parth Buddsoddi i greu'r amodau ar gyfer mwy o fuddsoddiad ac arloesedd.
Bydd y Parth Buddsoddi yn ategu mentrau adfywio economaidd rhanbarthol eraill gan gynnwys Bargen Twf Gogledd Cymru a Phorthladd Rhydd Môn.