WQ94939 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2024

A wnaiff y Llywodraeth ddarparu diweddariad am Parc Bryn Cegin Bangor yn sgil dynodiad asesiad hyder ambr yn y prosiect adolygiad porth 2?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 15/11/2024

Mae swyddogion wrthi'n bwrw ymlaen â'r prosiect pwnc gyda chydweithwyr yn Ambition North Wales ac mae adroddiad Ymgynghori Cyn Cais ar y datblygiad wedi'i gyflwyno i adran gynllunio Cyngor Gwynedd.

Mewn mannau eraill ym Mharc Bryn Cegin, mae canolfan fasnachol ar gyfer adeiladwyr yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd gan ddatblygwr sector preifat, a fydd ar agor cyn y Nadolig yn ein barn ni. Rydym hefyd mewn trafodaethau gyda nifer o bartïon â diddordeb mewn perthynas â'r tir datblygu sy'n weddill ym Mharc Bryn Cegin. Fodd bynnag, mae'r trafodaethau hynny'n fasnachol gyfrinachol ar hyn o bryd.