Pryd bydd yr ymgurch Act FAST nesaf yn cael ei gynnal ledled Cymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 15/11/2024
Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ymgyrch FAST/NESA amlieithog ac amlddiwylliannol er mwyn codi ymwybyddiaeth o arwyddion strôc ac annog pobl i alw 999 wrth i’r arwydd gyntaf ymddangos, ac mae cyfleoedd i ariannu’r ymgyrch yng Nghymru yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda GIG Lloegr a gallwn ddefnyddio’r adnoddau sydd wedi eu datblygu ganddo, er mwyn sicrhau bod negeseuon ar gyfer y cyhoedd yn gyson o ran yr angen i weithredu ar frys (hy FAST) pan fydd unrhyw arwyddion neu symptomau o strôc.