WQ94861 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Pam y tynnwyd meddiant ar arf fel rheswm adroddadwy dros wahardd o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar wahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 15/11/2024

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygiad cynhwysfawr o'r canllawiau ynghylch Gwahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae'r adolygiad yn cael ei gynnal mewn tri cham.

Cwblhawyd y cam cyntaf ym mis Ebrill ac roedd yn cynnwys diwygio'r canllawiau i adlewyrchu'r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu a'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg. Diwygiwyd hefyd y categorïau ar gyfer cofnodi gwaharddiadau at ddibenion casglu data i adlewyrchu'r data sy'n cael eu casglu gan ysgolion. Roedd y gwelliannau'n cynnwys cael gwared ar gategori meddiant ar arf neu ddefnydd ohono gan nad oedd y data hyn wedi'u casglu ers 2012/13 ac nad oeddent yn rhan o systemau gwybodaeth reoli ysgolion.

Nid yw dileu'r categori casglu data yn cael unrhyw effaith ar allu pennaeth i wahardd dysgwr o ysgol neu uned cyfeirio disgyblion. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod pwysigrwydd casglu data am waharddiadau yn sgil meddiant ar arfau neu eu defnyddio yn yr ysgol, a'r pryderon a godwyd gan undebau yn hyn o beth. Rwy'n cymryd y camau angenrheidiol felly i ailgyflwyno casglu'r data hyn, ac mae swyddogion yn ailedrych ar sut y gellir casglu'r wybodaeth.