Pa ystyriaeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i ehangu cynllun WERO i ddeintyddion i gynnwys mwy o Wynedd, gan gynnwys rhannau o etholaeth Arfon?
Mae WERO yn gynllun recriwtio â chymhelliant lleol sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr ag ymdrechion recriwtio cenedlaethol i recriwtio i leoedd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru y bu’n anodd recriwtio iddynt yn draddodiadol. Mae pob lle Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yng Ngogledd Cymru wedi’u llenwi drwy ymdrechion recriwtio lleol neu genedlaethol yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae nifer y lleoliadau WERO sydd ar gael wedi cynyddu o 10 i 15 ar gyfer mis Medi 2024 ac mae dau o’r lleoliadau yn y Gogledd (Amlwch a Dolgellau).
Mae 9 lle hyfforddiant sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae dau o’r rhain yn yr Academi Ddeintyddol ym Mangor, a gyda’r lleoliad WERO yn Nolgellau, golyga hyn fod traean o’r holl lefydd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn y Gogledd yng Ngwynedd.
O ystyried bod yr holl lefydd Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol yn cael eu llenwi bob blwyddyn, er mwyn ehangu’r cynllun ymhellach byddai angen i fwy o bractisau wneud cais i ddod yn oruchwylwyr hyfforddiant sylfaenol. Gallant wneud hyn drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru yma.