Ymhellach i WQ93773, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r data terfynol, gan fod proses glirio prifysgolion nawr wedi gorffen?
Yn dilyn y broses glirio, mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau bod 69 o fyfyrwyr Blwyddyn 1 ac 11 o fyfyrwyr Blwyddyn 2 wedi dechrau ar eu hastudiaethau ym mis Medi (blwyddyn academaidd 2024/25). Roedd pob un o’r 80 o leoedd hyfforddi a oedd ar gael wedi eu llenwi.
O’r 69 o fyfyrwyr Blwyddyn 1, roedd 43 yn dod o rannau eraill o’r DU ac nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg. O’r 26 o fyfyrwyr a oedd yn byw yng Nghymru, roedd 9 ohonynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, 5 yn siarad Cymraeg ond heb fod yn rhugl, a 12 yn ddi-Gymraeg.
O’r 11 o fyfyrwyr Blwyddyn 2, roedd 5 yn dod o rannau eraill o’r DU ac nid oeddent yn gallu siarad Cymraeg. O’r 6 myfyriwr a oedd yn byw yng Nghymru, roedd 3 yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac roedd 3 yn ddi-Gymraeg.
Ni chaniatawyd unrhyw geisiadau rhyngwladol.