A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio pam nad yw’n hysbys lle mae 9.6 y cant o landlordiaid Cymru yn preswylio yn ôl adroddiad ‘Delweddu a mapio data ar y farchnad tai rhent yng Nghymru’ a gyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Mehefin 2023?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
| Wedi'i ateb ar 15/11/2024
Mae gorfodaeth ar landlord sy’n cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru roi ei gyfeiriad llawn ac mae gan Rhentu Doeth Cymru o’r herwydd wybodaeth ble mae landlordiaid yn byw.
Fel rhan o’r broses gofrestru, mae gan landlordiaid y dewis fodd bynnag i nodi hefyd ble maen nhw’n byw y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Dyna’r wybodaeth rydych yn cyfeirio ati yn eich cwestiwn. Os nad yw’r landlord wedi cyflwyno’r wybodaeth honno, fe’i cofnodir fel ‘anhysbys’.