WQ94846 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2024

Faint o a) gartrefi gwag; a b) adeiladau gwag sydd wedi’u dychwelyd i ddefnydd fel cartrefi yn ystod tymor y Senedd hon mor belled?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 15/11/2024

Mae’r Rhaglen Trawsnewid Trefi wedi adnewyddu 2,300 o gartrefi ar gyfer eu defnyddio, gyda 400 o’r rhain wedi elwa ar y cynllun Benthyciadau Trawsnewid Trefi a 1,900 wedi elwa ar y cynllun Benthyciadau Eiddo.

Cafodd y Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau ei sefydlu i ailddatblygu adeiladau anodd, ac mae 131 o adeiladau wedi’u hadfer i’w defnyddio ers 2021.

Mae’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, a gafodd ei sefydlu yn 2022-23, yn ei blwyddyn gyntaf wedi neilltuo £76.4m i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gyflwyno 936 o gartrefi, gyda 374 yn cael eu hadfer ar gyfer eu defnyddio. Yn 2023-24, defnyddiodd y Rhaglen £87.2m o arian grant i  gyflwyno 936 o gartrefi, gan gynnwys adfer 374 eiddo ar gyfer eu defnyddio.

Trwy Gynllun Lesio Cymru, mae 233 eiddo wedi’u cofrestru ar gyfer y cynllun. O’r rheini, roedd rhyw 60% wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy.

Mae’r Cynllun Grant Cartrefi Gwag wedi adnewyddu 104 eiddo ar gyfer eu defnyddio fel cartrefi ers dechrau’r cynllun grant yn 2023, ac mae 756 o geisiadau cymwys wrthi’n cael eu prosesu.